A all
brwdfrydedd pobl tuag at natur fod yn faromedr ar gyfer iechyd yr
amgylchedd? Un arwydd o frwdfrydedd pobl tuag at natur yw’r ymateb
anhygoel a gafwyd i’n cystadleuaeth ysgrifennu Natur yn Ysbrydoli,
ac mae’n bleser cyhoeddi’r erthygl a ddaeth i’r brig yn y rhifyn
yma. Ond mae 2010 yn Flwyddyn Ryngwladaol Bioamrywiaeth a does dim
arwydd bod dirywiad ein cynefinoedd a’n rhywogaethau’n mynd i ddod
i ben yn fuan.
Maen nhw i gyd yma...