Natur Cymru
Natur yn ysbrydoli
Y sialens
Y sialens yw ysgrifennu erthygl mil o eiriau ar bwnc amserol
sy’n berthnasol i natur neu’r amgylchedd yng Nghymru ac sydd yn
eich ysbrydoli chi. Fe ellir cyflwyno erthyglau yn Gymraeg neu yn
Saesneg, ac fe fyddant yn cael eu beirniadu gan banel a fydd yn
edrych am y canlynol:
- Gwreiddioldeb cynnwys
- Defnydd o iaith glir (Cymraeg neu Saesneg)
- Cyflwyno dadl mewn dull cytbwys
- I ba raddau y mae’r erthygl yn ymgysylltu â’r darllenydd ac yn
cipio’r dychymyg
Wrth ysgrifennu’r erthygl, fe ddylai’r ymgeiswyr fod yn targedu
cynulleidfa sydd â diddordeb mewn bywyd gwyllt a’r amgylchedd ond
nad ydynt o anghenraid yn arbenigwyr. Croesewir lluniau
priodol, ond nid ydynt o anghenraid yn hanfodol.
Y wobr
Fe fydd yr enillydd yn cael gwobr o £500 wedi ei rhoi a’i
chyflwyno gan y WWF, yn ogystal â rhywbeth nodedig i’w roi ar y
CV!
Fe fydd y pedwar nesaf at y gorau yn cael tanysgrifiad blwyddyn
i Natur Cymru ar eu cyfer eu hunain neu rywun yr hoffent eu
henwebu.
Cymhwyster ac ymgeisio
Bwriad y gystadleuaeth yw ysgogi dadl ac annog cyfraniadau oddi
wrth fyfyrwyr mewn prifysgolion yng Nghymru. Mae wedi ei hanelu’n
bennaf at y rhai sy’n astudio pynciau amgylcheddol, ond mae’n
agored i bob myfyriwr, waeth pa bwnc y bo’n astudio.
Mae’r gystadleuaeth ar agor i bob un o fyfyrwyr 2008 / 2009 o
brifysgolion yng Nghymru, boent yn ddi-radd neu’n raddedig. Mae’r
erthyglau, ynghyd â darluniau, i’w cyflwyno i
info@naturcymru.org.uk erbyn 12 Ionawr 2009.
Yn ogystal, fe ddylech nodi eich manylion cyswllt llawn, gan
gynnwys enw a phennaeth yr adran yr ydych yn astudio ynddi.
Fe fydd e-bost yn cael ei anfon o fewn wythnos i gydnabod pob
ymgais. Os na fyddwch yn derbyn e-bost o’r fath, fe ddylech
gysylltu â Huw Jenkins ar 01766 541062.
Canlyniadau
Fe enwir yr erthygl fuddugol a’i chyhoeddi’n ddwyieithog yn
rhifyn y Gwanwyn o Natur Cymru.
Fe gytunir ar ddyddiad a lleoliad ar gyfer cyflwyno’r wobr drwy
drafod gyda’r enillydd a’r noddwr, WWF.
Cyhoeddusrwydd
Drwy ymgeisio yn y gystadleuaeth, mae’r enillydd yn cytuno i
gymryd rhan mewn deunyddiau a gweithgareddau hyrwyddol a fydd yn
ofynnol gan Natur Cymru, gan gynnwys cyhoeddi’r erthygl yn Natur
Cymru.
Gwybodaeth bellach
Os byddwch angen eglurhad ar unrhyw agwedd ar y gystadleuaeth,
cysylltwch â Huw Jenkins ar huw.naturcymru@btinternet.com