Natur Cymru Natur Cymru

YMWADIAD

Mae Natur Cymru yn gwneud popeth o fewn ei allu i sicrhau bod yr wybodaeth a gyhoeddir ar y wefan hon yn gyfamserol a chywir, ond nid ydym yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb nac atebolrwydd dros yr wybodaeth a geir yma na thros unrhyw wefan allanol y mae gennym gysylltau ar eu cyfer. Daliadau’r awduron a gaiff eu mynegi yn y cylchgrawn, ac nid ydynt o angenrheidrwydd yn ddaliadau i Natur Cymru Cyf.

 

HAWLFRAINT

Mae’r safle hwn wedi cael ei greu efo cymorth Cyngor Cefn Gwlad Cymru. O’r herwydd, mae’n cynnwys nifer o nodweddion a welir hefyd ar wefan y Cyngor Cefn Gwlad (gweler Dewisiadau Defnyddio). Fodd bynnag, Natur Cymru Cyf sy’n gyfrifol am gynnwys y tudalennau hyn, a nhw sy’n berchen ar yr hawlfraint.

 

Testun

Natur Cymru Cyf sy’n berchen ar hawlfraint yr holl destunau ysgrifenedig ar y tudalennau gwe hyn. Gallwch argraffu copi caled ohonynt, gallwch eu lawrlwytho ar ddisg, neu gallwch ddefnyddio unrhyw ddeunyddiau a welwch ar y safle, cyn belled â’u bod at eich defnydd personol chi a chyn belled na chânt eu defnyddio at ddibenion masnachol neu mewn cyhoeddiad arall. Ym mhob achos, rhaid cydnabod Natur Cymru fel ffynhonnell y deunydd. Gallwch roi copïau i drydydd parti, ond mae’r un telerau’n berthnasol iddyn nhw. Cewch eich gwahardd rhag defnyddio’r wybodaeth at unrhyw ddiben arall, heb gael caniatâd ysgrifenedig Natur Cymru.

 

Lluniau

Y ffotograffwyr, yr arlunwyr neu’r cyrff cysylltiedig sy’n berchen ar y ffotograffau neu’r lluniau eraill a welir. Rhaid i chi ofyn caniatâd y ffotograffydd, yr arlunydd neu’r corff cysylltiedig cyn atgynhyrchu lluniau at unrhyw ddiben arall, neu rhaid i chi gysylltu â Natur Cymru.