Natur Cymru
Y sialens yw sgrifennu erthygl, oddeutu mil o eiriau, yn sôn am
bwnc amgylcheddol/bywyd gwyllt yng Nghymru sy’n eich ysbrydoli chi.
Bydd yr enillydd yn cael gwobr o £500 gan WWF Cymru, a bydd y
pedwar a ddaw agosaf at y brig yn cael tanysgrifiad i Natur
Cymru
Cylchgrawn chwarterol sy’n sôn am amgylchedd a bywyd gwyllt
Cymru yw Natur Cymru. Pwrpas y gystadleuaeth yw tanio trafodaethau
ac annog unrhyw un sy’n ymddiddori ym myd natur Cymru i gyfrannu at
y cylchgrawn.
Bydd panel o feirniaid yn cnoi cil dros yr erthyglau, ac fe
fyddant yn chwilio am y canlynol:
- Cynnwys gwreiddiol
- Iaith syml a chlir (Cymraeg neu Saesneg)
- Y gallu i gyflwyno’r drafodaeth mewn ffordd gytbwys
- I ba raddau y bydd yr erthygl yn dal sylw’r darllenydd ac yn
tanio’i ddychymyg
Wrth sgrifennu’r erthyglau, dylai’r cystadleuwyr geisio anelu’u
gwaith at gynulleidfa arbennig sy’n ymddiddori mewn pynciau
amgylcheddol/bywyd gwyllt – ond nid arbenigwyr o
angenrheidrwydd.
Gall pawb, ar wahân i staff Natur Cymru, gymryd rhan yn y
gystadleuaeth. Dylech anfon eich erthyglau, ac unrhyw luniau (os
oes gennych rai), trwy e-bost at info@naturcymru.org.uk
erbyn 31 Mawrth 2010. Bydd yr erthygl fuddugol yn cael ei chyhoeddi
yn rhifyn Haf Natur Cymru.
Os bydd gennych gwestiynau’n ymwneud â’r gystadleuaeth, anfonwch
e-bost at: huw.naturcymru@btinternet.com
Poster:
Fersiwn PDF y gellir ei lawrlwytho o boster y gystadleuaeth.