inter 2008
Saith mlynedd yn ôl cafodd cynllun newydd ar gyfer coetiroedd ei lansio. Coetiroedd i Gymru oedd ei deitl, a’i fwriad oedd cynnig strategaeth ar gyfer
coed a choetiroedd am yr hanner can mlynedd nesaf. Ar ôl saith mlynedd yn unig, roedd y weledigaeth wedi pylu i’r fath raddau nes gorfod ailwampio’r cynllun a chynnal ymarfer ymgynghori arall, a ddaeth i ben fis Hydref. Roedd
angen diweddaru’r polisi er mwyn iddo gyd-fynd â newidiadau mewn polisïau eraill, er enghraifft dogfen Cymru’n Un a Strategaeth Amgylcheddol y Cynulliad,
ynghyd â phwysigrwydd cynyddol newid hinsawdd.