Haf 2009
Yn gynharach eleni, cynhaliodd Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol arddangosfa o waith Charles Tunnicliffe, a siaradodd Philip Snow am yr arlunydd byd natur gwych. Daeth Tunnicliffe yn boblogaidd iawn oherwydd y lluniau a
wnaeth ar gyfer 250 a mwy o lyfrau, ond efallai na chafodd y ganmoliaeth artistig a haeddai. Ys dywed Philip, caiff adar marw, sy’n eithaf hawdd eu darlunio, eu hystyried yn gelfyddyd; ond nid yw’r
dasg anodd o gyfleu bywyd yn cael yr un bri.