Natur Cymru

Ronald Lockley

Ronald Lockley, teyrnged i naturiaethwr o fri

DAVID SAUNDERS sy’n dwyn i gof y cyfraniad i astudiaethau natur Cymru a wnaed gan Ronald Lockley gan gyfeirio’n arbennig at y cylchgrawn Nature in Wales.

Yn ôl i'r brig

Mountain Goat

Mynd yn y wyllt yn yr ucheldiroedd – natur yn dychwelyd wedi Clwy’r Traed a’r Genau

Yn dilyn Clwy’r Traed a’r Genau, mae angen ailfeddwl am bolisi amaethyddol. A ddylem ddyfalbarhau â ffermydd mynydd aneconomaidd oherwydd y buddiannau y tybir y maent yn eu cynnig i’r amgylchedd? Mae MICK GREEN yn awgrymu y gallai mathau eraill o dirwedd, ddim yn seiliedig ar ffermio da byw dwys, fod yn llawer mwy gwerthfawr.

Yn ôl i'r brig

Natur Cymru

Clwy'r Traed a'r Genau: arbrawf byw?

Mae llawer o newidiadau wi bod yng nghefn gwlad mewn cyfnod byr. Caewyd llwybrau cerdded a newidiodd patrymau pori. Mae lladd anifeiliaid a chyfyngu ar eu symudiadau wedi effeithio ar fywyd gwyllt. Mae DUNCAN BROWN yn credu y dylem gofnodi ein sylwadau ynglŷn ag effeithiau'r drychineb ar yr amgylchedd cyn iddynt ddiflannu o'r cof.

Yn ôl i'r brig

Wind Farm

A fydd yr eos yn canu? – newid hinsawdd yng Nghymru

Mae pawb yn derbyn erbyn hyn bod yr hinsawdd yn newid oherwydd gweithrediadau dyn. Pa effaith fydd hyn yn ei gael ar amgylchedd Cymru? JOHN FARRAR sy’n trafod ein dyfodol hinsoddol ansicr, a’i oblygiadau i’r amgylchedd a datblygiad.

Yn ôl i'r brig

Natur Cymru

Hunllef Nos Gŵyl Ifan – coedwigoedd yn dioddef gan y newid yn yr hinsawdd

Wrth i Arlywydd yr Unol Daleithiau, George W. Bush gerdded i ffwrdd o Brotocol Kyoto, mae adroddiad gan yr Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt yn agor trafodaeth newydd ar newid hinsawdd a chadwraeth natur. RORY FRANCIS sy’n creu darlun pryderus o goedwigoedd y dyfodol.

Yn ôl i'r brig

Natur Cymru

Newid hinsawdd ar yr Wyddfa – beth mae hynny’n ei olygu i fywyd gwyllt?

Mewn ymateb i fygythiadau’r newid yn yr hinsawdd a llygredd, mae prosiect monitro tymor-hir dwys wedi cychwyn ar yr Wyddfa. Mae CLIVE WALMSLEY yn egluro pwrpas y monitro ac yn disgrifio rhai o’r newidiadau ymddangosiadol yn yr amgylchedd, a’r bywyd gwyllt sy’n goroesi er gwaetha’r amodau caled ar y mynydd.

Yn ôl i'r brig

Natur Cymru

Lle i’r enaid gael llonydd: Ynys Enlli a gwarchodfeydd natur eraill

Mae PETER HOPE JONES wedi treulio oes yn gwylio ac yn tynnu lluniau o fyd natur. Caiff ei gysylltu’n arbennig ag Ynys Enlli, ac ef oedd y prif ysgogwr i gofnodi byd natur yno. Ymhlith ei waith ysgrifenedig a ffotograffig y mae dau lyfr ar Ynys Enlli, un ohonynt gyda’i gyfaill R S Thomas. Yma mae’n archwilio dimensiwn ysbrydol Ynys Enlli, ac yn awgrymu y dylid rhoi mwy o sylw i’r agwedd hon mewn gwarchodfeyd natur eraill.

Yn ôl i'r brig

Natur Cymru

Diogelu ffyngau lawnt – cartref i gyfoeth o gapiau cwyr

Mae arolygon yng Nghymru yn ystod y tair blynedd diwethaf wedi dangos poblogaethau rhyngwladol bwysig o bedair rhywogaeth brin o ffyngau, sy’n cael eu hadnabod yn y Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth fel rhai sydd angen camau i’w diogelu. Mae’r rhain yn tyfu mewn dolydd amaethyddol heb eu gwella a thir pori garw ucheldirol, ond darganfuwyd poblogaethau pwysig hefyd ar lawntiau, mewn mynwentydd a gerddi. RAY WOODS sy’n egluro pwysigrwydd newydd y cynefin hwn.

Yn ôl i'r brig

Natur Cymru

Adar ysglyfaethus yng Nghymru yn y flwyddyn 2000

IOLO WILLIAMS, dyn adar adnabyddus, yn sôn am ffawd ac anffawd adar ysglfaethus y dydd yng Nghymru.

Yn ôl i'r brig

Natur Cymru

Llên y Llysiau: Bysedd cochion

Prosiect a gychwynnwyd gan Gymdeithas Edward Llwyd yw Llên y Llysiau i gofnodi pob math o gysylltiad rhwng pobl Cymru a phlanhigion. Mae'n ceisio casglu gwybodaeth am y rhywogaethau o dan nifer o benawdau, gan gynnwys tarddiad yr enw, cyfeiriadau llenyddol, enwau lleoedd, cofnodion hanesyddol, a'r defnydd o'r planhigion. Yma mae IWAN EDGAR yn trafod llên bysedd y cŵn.

Yn ôl i'r brig