Natur Cymru

Issue 04

Ailgyflwyno: gadael pethau’n rhy hwyr?

A oes gan ailgyflwyniadau unrhyw beth i’w gynnig i gadwraeth bioamrywiaeth? Mae NIGEL AJAX-LEWIS yn trafod peryglon atebion sydyn, a’r cwestiynau y mae angen eu gofyn a’u hateb cyn dilyn y llwybr braidd yn eithafol hwn.

Yn ôl i'r brig

Hypericum

'Nialwch a pherlau natur

Mae Hypericum linariifolium yn blanhigyn prin iawn sydd i'w weld mewn rhai lleoedd ar Ben Llŷn. Mae ymdrechion I arbed un o'r goreuon o'r safleoedd hyn wedi methu ar y funud olaf, fel yr esbonia IWAN EDGAR.

Yn ôl i'r brig

Issue 04

William Condry – croniclwr natur

Roedd William Condry’n cyfrannu i’r cylchgrawn a ragflaenodd hwn, sef Nature in Wales, a byddai wedi bod wrth ei fodd yn gweld ei ail-eni fel Natur Cymru. Gobeithio bod ei ysbryd yn dal yn fyw rhwng y tudalennau. Yma mae CHRIS FULLER yn cofio cyfaill a naturiaethwr oedd yn annwyl gan bawb.

Yn ôl i'r brig

Issue 04

Gwarchodfeydd Natur Preifat yn Sir Faesyfed

Yn ei waith fel Swyddog Safleoedd Bywyd Gwyllt Powys rhwng 1997 ac 1999, daeth JULIAN JONES yn ymwybodol o nifer y safleoedd bywyd gwyllt o ansawdd uchel oedd yn eiddo ac yn cael eu rheoli gan unigolion â diddordeb nad oeddent yn ffermwyr traddodiadol. Roedd pobl o’r fath yn fwy na pharod i reoli’u tir ar gyfer bywyd gwyllt yn bennaf, ond yn aml yn ansicr ynghylch y ffordd o wneud hynny a lle i gael cyngor.

Yn ôl i'r brig

Natur Cymru

Gwarchodwyr ieir bach yr haf

Menter gan Gadwraeth Ieir Bach yr Haf yw Butterfly Guardians a sefydlwyd ym mis Mehefin 1998 gyda chyllid gan Amgylchedd Cymru. Yma mae NICHOLA DAVIES yn disgrifio rhai o gyflawniadau’r prosiect yn ystod y tair mlynedd gyntaf, a’i ddyheadau i’r dyfodol.

Yn ôl i'r brig

Natur Cymru

Ffotograffiaeth dan y dŵr yng Nghymru

Mae ffotograffiaeth dan y ddŵr yn ffenestr i fyd cudd y môr. Un o’r cefnogwyr mwyaf nodedig, PAUL KAY, sy’n egluro mwy.

Yn ôl i'r brig

Natur Cymru

Wedi ei gwreiddio yn y gorffennol – yn edrych tua’r dyfodol

Mae sefydliad newydd yng Nghymru yn arloesi yn y grefft o fyw’n gynaliadwy, nid yn lleiaf drwy edrych ar ôl ei dreftadaeth gyfoethog o fywyd gwyllt. Mae JAN MOSELEY yn adrodd hanes blynyddoedd cynnar Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru.

Yn ôl i'r brig

Natur Cymru

Morgathod o amgylch arfordir Cymru – adnodd sy’n prinhau?

Ers talwm, câi morgathod eu dal yn gyffredin ac roedd ganddyn nhw werth masnachol. Ond bellach, mae’r niferoedd sy’n cael eu dal oddi ar arfordir Cymru wedi lleihau’n sylweddol. Mae Grŵp Morgathod Cymru yn benderfynol o ddarganfod beth yn union sy’n digwydd. ROWLAND SHARP sy’n dweud yr hanes.

Yn ôl i'r brig

Natur Cymru

Llên y Llysiau: y goeden afalau surion

Prosiect a gychwynnwyd gan Gymdeithas Edward Llwyd yw Llên y Llysiau i gofnodi pob math o gysylltiad rhwng pobl Cymru a phlanhigion. Mae'n ceisio casglu gwybodaeth am y rhywogaethau o dan nifer o benawdau, gan gynnwys tarddiad yr enw, cyfeiriadau llenyddol, enwau lleoedd, cofnodion hanesyddol, a'r defnydd o'r planhigion. Yma mae DUNCAN BROWN yn sôn am goed afalau surion.

Yn ôl i'r brig

Natur Cymru

Newid yn yr Arfordir – rhyddhau’r pwysau

Mae’r arfordir wedi ei ddal mewn gwasgfa a achoswyd gan yr amddiffynfeydd môr, ac mae dynodiadau cadwraeth yn atgyfnerthu’r syniad bod y morlin yn sefydlog. Ond, fel y mae DR SIEGBERT OTTO yn egluro, mae’n rhaid i ni geisio deall sut mae’n harfordiroedd yn gweithio, a negydu rhwng prosesau arfordirol naturiol a blaenoriaethau dynol os ydym am ddianc rhag effeithiau niweidiol “yr anghenfil newid arfordirol” a grewyd gan y ddynoliaeth.

Yn ôl i'r brig