Natur Cymru

Issue05

Bele’r coed yng Nghymru – ein dirgelwch mwyaf?

Mae mamal prinnaf y wlad mor anodd dod o hyd iddo fel bod rhai’n credu ei fod wedi marw o’r tir. Mae casglu tystiolaeth bendant o felaod coed o dan yr amgylchiadau yma yn her enfawr i naturiaethwyr. JOHNNY BIRKS, TONY BRAITHWAITE a JOHN MESSENGER o Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Vincent (VWT) sy’n egluro’r sefyllfa bresennol.

Yn ôl i'r brig

Issue 05

Johannesburg 2002 – dyfodol i fyd natur, neu fusnes fel arfer?

Mae MORGAN PARRY yn adrodd ar Uwch-Gynhadledd y Ddaear, a’r sialensau amgylcheddol sy’n wynebu’r byd erbyn hyn.

Yn ôl i'r brig

Issue 05

Yng ngolwg y gwynt

Mae angen chwilio am ffynonellau o ynni adnewyddadwy yn lle tanwydd ffosil, ac ynni gwynt sydd ar y blaen. Gan bod tyrbeini anferth ar fryniau Cymru wedi bod yn ddadleuol, mae’n bosibl mai ffermydd gwynt yn y môr yw’r ateb. MALCOLM SMITH sy’n gosod yr olygfa, ac yn edrych ar rinweddau’r “llafnau yn y môr”.

Yn ôl i'r brig

Llen y Llysiau

Llên y Llysiau: rhedynen gyfrdwy

Prosiect a gychwynnwyd gan Gymdeithas Edward Llwyd yw Llên y Llysiau i gofnodi pob math o gysylltiad rhwng pobl Cymru a phlanhigion. Mae'n ceisio casglu gwybodaeth am y rhywogaethau o dan nifer o benawdau, gan gynnwys tarddiad yr enw, cyfeiriadau llenyddol, enwau lleoedd, cofnodion hanesyddol, a'r defnydd o'r planhigion. Yma mae TWM ELIAS yn trafod rhedyn cyfrdwy.

Yn ôl i'r brig

Natur Cymru

Gweld y grugiar ddu drwy’r coed

Mae gweld y grugiar ddu yn arddangos ei hun yn rhywbeth hynod drawiadol ond mwy a mwy prin. Bellach mae cymorth wrth law, ac mae PATRICK LINDLEY a DAVE SMITH yn adrodd hanes o lwyddiant anhygoel.

Yn ôl i'r brig

Natur Cymru

Agor y goedwig i fyny – gobaith newydd i Niwbwrch

Er bod cadwraeth natur yn draddodiadol wedi bod yn fater o frwydro wedi’r digwyddiad, mae oes newydd o brosiectau adfer cynefin uchelgeisiol yn gwawrio. JAMES ROBERTSON sy’n ystyried sut y gellid trawsnewid planhigfa fawr ar Ynys Môn yn glytwaith o goed a thwyni tywod agored.

Yn ôl i'r brig

Natur Cymru

Byd yr aderyn bach – blychau nythu i hybu niferoedd aderyn y to

Mae aderyn y to, symbol o’n dinasoedd mawrion, wedi bod yn dirywio mewn nifer dros yr ugain mlynedd diwethaf. Bellach mae cymorth ar y ffordd. Darparwyd cartrefi i adar y to, wedi eu hadeiladu mewn terasau neu flociau o fflatiau i annog eu hymddygiad nythu cytrefol. TONY JENKINS sy’n adrodd am lwyddiant ysgubol yr arbrawf hwn.

Yn ôl i'r brig

Natur Cymru

Hanes, statws a rheoli’r cordwellt yng Nghymru

Cododd y cordwellt yn Nŵr Southampton o hybrid naturiol ac mae hynny’n egluro’r term 'hybrid vigour'. Fe’i cyflwynwyd yn wreiddiol i helpu i selio llaid a chrynhoi tir, ond tyfodd allan o reolaeth a daeth yn broblem gadwriaethol, yn bygwth y gwastadeddau llaid a oedd yn bwysig i fywyd gwyllt. Rhoddwyd llawer o amser ac egni i’w reoli dros y deng mlynedd ar hugain diwethaf, ond a fu’r ymdrech yn un werth chweil? Mae’r arwyddion yn dangos bod y cordwellt yn dechrau llacio’i afael, fel yr adrodda PETER RHIND.

Yn ôl i'r brig

Natur Cymru

Ail-gyflwyniadau – y budd ehangach

A yw ailgyflwyniadau yn help neu’n rhwystr i gadwraeth bywyd gwyllt. Dechreuodd Nigel Ajax-Lewis y ddadl yn y rhifyn diwethaf. Yma mae IAN CARTER, sydd wedi chwarae rhan flaenllaw mewn ailgyflwyno’r barcud i Loegr a’r Alban yn llwyddiannus, yn taro tant cadarnhaol o blaid ailgyflwyno adar.

Yn ôl i'r brig

Natur Cymru

Crynodeb o ynysoedd Cymru – gogledd Cymru

Casglwyd gan GEOFF GIBBS, sydd newydd ddychwelyd i fyw ar arfordir Gogledd Cymru wedi 25 yn alltud yn Essex.

Yn ôl i'r brig

Stoat

Hela'r carlwm

Roedd ffwr gwyn y carlwm yn ystod y gaeaf yn cael ei ystyried yn werthfawr iawn am ganrifoedd. Ond wrth a'r byd gynhesu, a fydd y lliw yma i'w weld mor aml? Mae DUNCAN BROWN yn gobeithio dod o hyn i'r ateb..

Yn ôl i'r brig