Natur Cymru
Am ddeng mlynedd, fe wyliais ddôl wleb, wyllt
ger ffordd Caergybi yn datblygu’n bentwr o irisau melyn a llysiau’r
angel. Yna, fe gafodd y ffordd newydd ar draws Ynys Môn ei
hadeiladu, a bu’n rhaid i’r ddôl ildio i gynnydd. Gosodwyd pibell,
adeiladwyd draen goncrid, daethpwyd ag uwchbridd ar y safle, ac fe
dorrwyd y llystyfiant. Bellach, mae darn bychan – ond bendigedig –
o wlyptir, a oedd gynt yn gartref i lygod pengrwn y dŵr, yn borfa
ddi-liw sy’n cael ei phori gan geffylau.
Fe wyliais y cyfan yn digwydd o flaen fy llygaid, ond wnes i
ddim byd. Mae hi lawer yn rhy hawdd dweud dim wrth i’n cynefin
hardd gael ei drawsnewid yn rhywbeth unffurf a salw. Ond mae pob
cornel aflêr, pob llain sy’n ddisglair gan hud byd natur, yn werth
ymladd drosti. Mae erthygl Anne Bryan, sy’n sôn am sut y cafodd
gwerddon fechan o dir gwyrdd ei hachub, yn arwydd y dylai pob un
ohonom ymarfogi, fel petai. Er mwyn gwneud gwahaniaeth, rhaid i ni
weithio’n galed a bod yn gwbl ymroddedig; ond fe all y broses newid
amgyffrediad pobl, gan ddod â phawb yn nes at ei gilydd.
Fe all byd natur ddod â hwyl, dihangfa a rhyfeddodau lu i’ch
rhan. Mae modd i lawer ohonom ddarganfod hyn yn ein gerddi, ynghyd
â’r microwyfynod di-rif. Mewn dwy erthygl, ceir gwybodaeth ynglŷn â
sut y gallwch ddenu mwy o fywyd gwyllt i’ch gerddi, a sut y gallwch
ddod o hyd i’r microwyfynod sy’n byw ynddynt.
Nid pobl sydd wedi creu natur, ond ers tro byd rydym wedi
dylanwadu ar y tirlun. Ys dywed Jim Latham, roedd bodau dynol i’w
cael cyn fforestydd, felly ni allwn ystyried coetiroedd yn naturiol
ond drwy dderbyn ein bod ni wedi bod yn rhan o natur ers cyn cof.
Mewn mannau fel cymoedd meysydd glo De Cymru, lle mae hanes pobl a
byd natur wedi plethu trwy’i gilydd ers canrifoedd, fe fyddai
cryfhau’r berthynas rhyngom ni a’r amgylchedd o gryn fudd i ni.
Disgrifia Julian Branscome atyniadau bywyd gwyllt rhyfeddol yr
ardal hon, yn ogystal â’r hyn sydd ar gael i bobl leol.
Ni allaf feddwl am greadur mwy carismatig na’r ystlum pedol
lleiaf, nac ychwaith am greadur di-asgwrn-cefn mwy trawiadol na
chorryn rafftio’r gors galch, ac fe sonnir am y ddau yn y rhifyn
yma. Wrth gwrs, mae amgylchedd dŵr iach yn bwysig i’r ddau. Mae Bob
Merriman yn disgrifio’r ymdrech sydd ar y gweill i atal pobl rhag
cael gwared â chemegau dipio defaid mewn ffyrdd cwbl amhriodol.
Mae byd natur yn llawn rhyfeddodau, ond mae olyniaeth gyson y
tymhorau yn rhywbeth y gallwch ddibynnu’n llwyr arno. Ond a yw hyn
yn gwbl wir? Cefais fy rhyfeddu gan erthygl Alan Morley sy’n sôn am
gacwn yn nythu yn ystod y gaeaf, fel y cafodd yntau ei synnu o weld
mamwenyn yn casglu paill ym mis Rhagfyr. Mae’r gwirionedd annisgwyl
yma yn ein hatgoffa y gallwn bob amser ddysgu llawer mwy am fyd
natur, pe bai gennym yr amynedd i eistedd yn ôl a’i wylio. Mae
hefyd yn arwydd o’r hyn sy’n digwydd i’r tymhorau. Pe bai hyn yn
parhau i ddigwydd, nid cacwn yn unig fydd yn drysu’n lân.
James Robertson