Natur Cymru
Nid oes unrhyw beth sy’n ein cysylltu â byd natur yn fwy
cadarn, nac yn ein hatgoffa o’n bioleg anifeilaidd yn fwy
clir, na bwyd. Tynnwch ymaith ddylanwadau dieithriol busnes amaeth,
prosesu bwyd ac adwerthu, ac fe ddaw’n glir y dylai pryder ynglŷn
â’r bwyd yr ydym yn ei fwyta a phryder ynglŷn ag iechyd byd natur
fynd law yn llaw.
Mae yna ddigon yn y rhifyn hwn i ddangos uniad hapus bwyd a
natur. Mae hanes ein hen isrywogaethau afalau Cymreig yn ein
hatgoffa o’r rhinweddau yr oedd cenedlaethau cynharach yn eu cael
yn yr isrywogaethau hyn, ac o’r rhodd ryfeddol gan y gorffennol i’r
presennol sydd i’w weld mewn hen berllannau.
Mae gwarchodfa Cors Teifi wedi croesawu ych yr afon i rengoedd
ei chynorthwywyr. Fel tractorau caeau reis a darparwyr cig iach a
chaws mosarela, mae’r anifeiliaid hyn wedi dod â budd mawr i’n
rhywogaeth ni. Draw ar y gors, maent yn darparu gwasanaeth arall,
wrth glirio’r gorsen a gwella’r amgylchedd.
Bydd byd natur yn aml yn cael ei wthio i warchodfeydd bychain,
ond mewn mannau lle mae llecynnau helaeth o gynefin heb ei wella yn
aros, megis ar yr ucheldiroedd o gwmpas Cwm Elan, mae’r gwrychoedd
yn llawn o gnau ac aeron, ac mae’r coedwigoedd a’r caeau’n llawn o
ffyngau. Mae madarch gwylltion, rhai ohonynt gyda blas llawer gwell
nag eiddo’r sfferau gwynion y mae archfarchnadoedd yn eu gwerthu,
yn denu ymwelwyr ac yn cynnal yr economi lleol.
Y mae’n ‘dymor agored’ ar yr archfarchnadoedd. Mae llyfrau megis
Shopped: The Shocking Power of British Supermarkets gan Joanna
Blythman, a Not on the Label – What Really Goes into the Food on
Your Plate gan Felicity Lawrence, wedi bod yn gwerthu fel slecs. Yr
wyf wedi gwrthsefyll y demtasiwn i adolygu’r rhain, gan eu bod yn
ymdrin â llygru’r gadwyn fwyd fel y mae hwnnw’n effeithio ar
brynwyr, yn hytrach nag ymdrin â’r amgylchedd. Eto, mae hyn wedi fy
ngadael gydag un llyfr i’w adolygu sy’n nodi’r holl gysylltiadau
rhwng yr hyn yr ydym yn ei fwyta, sut y mae ein bwyd yn cael ei
gynhyrchu, a beth y mae hyn yn ei wneud i’r amgylchedd byw.
Mae So Shall We Reap yn ddadansoddiad grymus o sut y mae’r
diwydiant bwyd wedi mynd ar gyfeiliorn. Er bod yr hanes yn un
trist, mae egin gwyrddion i’w gweld. Er nad yw’n addas iawn ar
gyfer ffermio ‘nwydd’, lle mae’n rhaid cynhyrchu bwyd am y gost
isaf bosibl ar gyfer y farchnad fyd-eang, mae gan Gymru asedau
enfawr ar gyfer ffermio amgylcheddol, er enghraifft gwartheg duon
Cymreig sydd wedi ymaddasu’n dda â’r amgylchedd hwnnw.
Mae adferiad dolydd brwyn a rhostiroedd, trawsnewidiad
planhigfeydd yn goedwigoedd naturiol, a’r hyfrydwch o weld gweilch
y pysgod yng nghefn gwlad Cymru, i gyd yn achos gobaith. Mae gan
Gymru cymaint o fendithion naturiol fel ei bod yn anodd peidio â
bod yn optimist, hyd yn oed yn wyneb problemau her
amgylcheddol.
James Robertson