Natur Cymru
Yn ei hunangofiant On My Own Terms,
mae John Seymour yn olrhain nôl i’w blentyndod sawl peth a fu’n
agos at ei galon ar hyd ei fywyd - fel ei ymdeimlad dwfn at bobl y
wlad. Mae nifer o’r llyfrau a ysgrifennodd ar ôl yr hunangofiant
hwn, gan gynnwys y clasuron yngln â hunan-gynhaliaeth, yn tynnu ar
y cyfnod cynnar hwn mewn rhyw ffordd neu’i gilydd.
Gall atgofion cynnar fod mor fyw nes bod rhywun bron yn gallu eu
blasu nhw: yn fy achos i, mae rhai o fy atgofion cliriaf yn
gysylltiedig â phrofiadau a gefais o fyd natur tra’n aros mewn
bwthyn ar ddarn gwych o dir comin yn Sir Benfro. Gall llyfrau hefyd
danio dychymyg a bwrw goleuni a lliw i gorneli dyfnaf y meddwl:
llwyddodd llyfrau John Seymour wneud hyn i mi, o’r darlleniad
cyntaf o The Fat of the Land.
Rwyf wedi bod yn ail-ddarllen ei lyfrau yn ddiweddar, rhai
ohonyn nhw yn cynnwys darluniau cain Sally Seymour. Rwyf wedi
gwerthfawrogi o’r newydd y gwerthoedd a fu’n llywio’r enaid rhydd
hwn, gyda’i ysbryd rhamantus a’i farn eithafol o benstiff ar
brydiau, ac wedi gwerthfawrogi unwaith eto yr wybodaeth ymarferol a
gasglodd drwy brofiad uniongyrchol dros y blynyddoedd. Mae’n fraint
cael cyhoeddi ei feddyliau olaf, ynghyd â thysteb deimladwy i’w
fywyd a’i ddylanwad.
Roedd gwarchod ac adfer camlesi yn un o’r ymgyrchoedd y bu John
yn eu brwydro yn ystod ei oes. Mae’n dda gallu adrodd yma bod
camlas Trefaldwyn wedi goroesi fel hafan i fywyd gwyllt ac i rai
sydd am hamddena arni; nid bod y siwrne wedi bod yn un rwydd, fel
yr adroddwn yma.
Am flynyddoedd lawer ac ar ddiwedd ei fywyd, Sir Benfro oedd yr
hafan a borthai ei gariad at fyd natur ac at grefftwaith sy’n rhoi
ffurf a defnydd ymarferol i adnoddau naturiol. Y tu ôl i’w fferm
fechan mae bryn dan orchudd o goed hynafol ,gyda llain o dir grugog
a charegog ar ei gopa. Hwn yw’r darn o weundir a ddisgrifir yn yr
erthygl sy’n son am adfer Tycanol o’r trwch o eithin a rhedyn a
fu’n tagu’r tir am flynyddoedd..
Tan yn ddiweddar, byddai bocs o fatsis wedi bod yn ateb i sawl
un a ddymunai wared gordyfiant ar ddarn o weundir. Nawr rhaid i
reolwyr feddwl yn ofalus cyn tanio darn o dir grugog ac anfon
cymylau o fwg a charbon deuocsid i’r amgylchedd. Gochelwch rhag
canfod ateb lleol sy’n achosi problem fyd eang. Mae llygredd awyr
yn achosi peryglon mawr, gan gynnwys cawodydd o nitrogen. Wrth i
chi ddarllen y geiriau hyn nawr, mae fel petai rhyw chwyrlïwr
gwrtaith anferth yn yr awyr yn chwalu nitrogen drostom. Does dim ei
angen arnom ac mae’n peryglu ein cynefinoedd bywyd gwyllt
gorau.
Y tu ôl i fygythiadau difrifol fel hyn cawn straeon yn aml am
ymroddiad a mwynhad pur. Cyfuniad o’r ddau sydd wedi llwyddo dangos
i ni bod yna lamidyddion yn bwydo ac yn teithio o gwmpas glannau
Sir Fôn ac mae’n dda gwybod bod y genhedlaeth nesaf yn cael eu
cynhyrfu gan y mamaliaid môr hyn ac yn helpu sicrhau dyfodol ar eu
cyfer.
James Robertson