Amser dathlu’r ffwlbart
Mae “ffureta” am rywbeth yn awgrymu busnesa’n
ddi-baid yn chwilio am rywbeth diddorol, sy’n dwyn i gof y daliwr
cwnignod bach sionc o’r un enw. Ond mae ei bartner yn y
gwyllt, sydd mor agos yn eneteg fel bod y ddau yn paru â’i gilydd,
yn cael tipyn llai o sylw, er bod ganddo reddfau llym a sgiliau fel
heliwr a rheibiwr. Gyda chyn lleied o gathod mawr yn rhan o’n
ffawna, dylem ymfalchio yn y “gath ffowls” sydd wedi goroesi mewn
llefydd anghysbell yng Nghymru i ymledu ar draws Prydain, fel y mae
KATE WILLIAMSON a JOHNNY BIRKS yn
egluro.
Yn ôl i'r
brig