Natur Cymru
Ceir fersiwn lawn o'r erthygl hon yn y cylchgrawn.
Mae amaethyddiaeth yn cychwyn ar gyfnod o
newid. Mae cnydau newydd megis Miscanthus a Phrysgwydd
Helyg Cylchdro Byr (‘Short Rotation Willow Coppice’ neu SRC) ar fin
newid patrymau cynhyrchu cnwd ac agor marchnad egni newydd i
gnydwyr a’r gymuned cefn gwlad ehangach.
Mae newidiadau yn y farchnad egni wedi sicrhau bod cynnyrch
adnewyddadwy wedi troi i fod yn ganolbwynt, gyda newid yn yr
hinsawdd fel y prif ysgogydd. Ystyrir cnydau bio-màs gan fwyaf fel
bron â bod yn ‘garbon niwtral’ gan fod y carbon deuocsid a ryddheir
pan losgir y cnydau yma fel tanwydd ar gyfer gwres a/neu drydan yr
un fath â’r cyfanswm o garbon deuocsid yr amsugnodd y planhigion
pan oeddent yn tyfu. Fel tanwydd, maent felly’n llawer mwy
amgylcheddol gyfeillgar na thanwydd ffosil.
Glaswellt sy’n tyfu’n gyflym gan ffurfio clystyrau, ond heb fod
yn amharu ar gnydau eraill yw Miscanthus, gyda photensial o fod â
bywyd cynhyrchiol o 20 mlynedd neu fwy. Mae Helyg
(Salix.spp.) yn rhywogaeth amrywiol, gyda channoedd o
isrywogaethau ar gael yn rhwydd yng Nghymru. Mae’r modd y caiff ei
gynhyrchu yn fwy tebyg i ddulliau cynhyrchu cnwd amaethyddol na
choedwigol.
Caiff y ddau gnwd eu plannu yn y gwanwyn. Mae rheoli chwyn yn
hanfodol yn ystod cyfnodau sefydlu a chaiff chwynladdwyr eu
defnyddio’n rheolaidd. Gellir defnyddio tomwellt neu gnydau
gorchuddio i gynorthwyo gyda rheoli chwyn, gyda’r manteision
ychwanegol o wella’r pridd. Mae treialon ar helyg mewn ardaloedd
tir uchel yn awgrymu y gallai defnyddio gwrtaith fod o fantais ac
mae ychwanegu calch yn debygol o fod yn hanfodol yn yr ardaloedd
hyn.
Ar hyn o bryd, nid oes plâu na heintiau sy’n niweidio cynnyrch y
cnydau Miscanthus, ond mae SRC yn agored i nifer o blâu pryfetach
(chwilod helyg yn benodol), a hefyd i heintiau megis y gawod goch.
Gellir lleihau’r angen i ddefnyddio pryfleiddiaid drwy gynllunio’r
planhigfeydd yn ofalus a thrwy ddewis y math cywir o isrywogaeth.
Caiff isrywogaethau gwydn eu tyfu nawr mewn ymgais i leihau’r
dibyniad ar ffyngladdwyr a phryfleiddiaid.
Mae gan y ddau gnwd system dda o wreiddiau a mecanweithiau sydd
wedi datblygu’n dda ar gyfer ailgylchu maeth mwynol, gyda’r
gwreiddiau’n cynorthwyo i lynu’r pridd gyda’i gilydd a lleihau’r
risg o erydiad. Mae Miscanthus yn trawsnewid pelydriad i fio-màs yn
effeithlon dros ben, ac mae gandddo’r potential i gynhyrchu mwy o
ddeunydd sych na chnydau megis gwenith neu haidd. Mae’r ddau gnwd
yn defnyddio llawer iawn o ddŵr, sy’n rhywbeth sydd angen ei
ystyried. Bydd SRC yn tyfu’n dda ar y rhan fwyaf o dir lle mae
lefel rhesymol o law, ac felly mae’n addas iawn ar gyfer hinsawdd
Cymru.
Ystyriaethau’r safle
Mae Miscanthus ac SRC yn gnydau tal sy’n tyfu’n gyflym ac sy’n
medru newid sut mae safle’n edrych yn sylweddol. Gydag 85% o dir
amaethyddol Cymru dan laswellt, mae’n debyg y bydd hyn yn bryder
penodol yng Nghymru. Mae aredig porfeydd hirdymor yn rhyddhau
llawer iawn o garbon i’r atmosffer ac mae hyn cael effaith
niweidiol ar amcan cynhyrchu bio-màs sef diddymu nwyon tŷ gwydr.
Gellir tyfu cnydau glaswellt egni ar neilltir a gall greu incwm
ychwanegol defnyddiol i ffermwyr yn y broses. Er, o safbwynt
amgylcheddol, ni fyddai hyn o bosib yn ddymunol: byddai llawer yn
dibynnu ar ba mor gyfoethog mewn rhywogaethau y byddai’r neilltir,
ac am ba mor hir y mae wedi bod yn neilltir.
Er mwyn bod yn economaidd ac yn amgylcheddol hyfyw, mae angen
tyfu cnydau yn agos i ble byddant yn cael eu defnyddio fel tanwydd.
Mae’r cnwd sydd wedi ei gynaeafu yn gynnyrch swmpus, a’r pellaf y
caiff ei gludo yna’r uchaf yw’r costau ariannol a’r costau o ran
carbon.
Effeithiau ar fioamrywiaeth
Mae sicrhau nad yw bioamrywiaeth yn cael ei effeithio’n negyddol
yn golygu bod â dealltwriaeth o ecoleg y safle presennol a’r ardal
o’i amgylch. Gall cnydau egni greu cyfleoedd newydd i lawer o
rywogaethau o blanhigion ac anifeiliaid symud i mewn i’r ardal, ac
mae nifer o astudiaethau wedi eu cynnal yn y maes hwn. Darganfuwyd
bod SRC yn dal dwysedd uwch o adar a mwy o rywogaethau na chnydau
grawn. Mae oedran y cnwd hefyd yn bwysig. Roedd yn well gan y rhan
fwyaf o rywogaethau gnwd ifanc, tra roedd niferoedd y corhedyddion
yn cynyddu fel y sefydlodd y cnydau SRC. Mae cnydau ifanc o
Miscanthus yn cynnig darnau o ddaear lom sy’n boblogaidd gydag adar
megis ehedyddion a chornchwiglod, ac mae’r cnwd yn cynnig cynefin
da ar gyfer gaeafu. Caiff SRC a Miscanthus ill dau eu cynaeafu yn y
gaeaf, sydd y tu allan i adegau paru ac nid yw ymfudwyr haf yn
bresennol.
Drwy gynllunio’n ofalus, mae gan blanhigfeydd SRC a Miscanthus y
potensial i wella’r dirwedd a’r amgylchedd, lleihau ein dibyniaeth
ar danwydd ffosil a dod â marchnadoedd newydd i economi cefn gwlad.
Ffermwyr yw ceidwaid yr amgylchedd ac mae eu cadw nhw mewn busnes
yn allweddol i gadw ein treftadaeth cefn gwlad yn fyw.
Catherine Heywood yw’r Ymgynghorydd Egni
Adnewyddadwy i ADAS (Gwasanaeth Datblygu a Chynghori Amaethyddol) a
CALU (Canolfan Defnydd Tir Amgen).