Natur Cymru
Ceir fersiwn lawn o'r erthygl hon yn y cylchgrawn.
Mwyalchen y mynydd (Turdus torquatus)
yw un o adar clasurol ucheldir Cymru. Mae ei chân ddolefus yn
atgoffa rhywun o greigiau ein hucheldir, a chan mai dyma un o’r
adar mudol cyntaf, mae hefyd yn arwydd o ddyfodiad y gwanwyn i’n
tir. Yn anffodus, mae eu niferoedd hefyd yn dirywio’n arw, ac nid
yw’r rhesymau am hyn yn glir.
Daw mwyeilch y mynydd yn ôl i Gymru tua mis Mawrth, ar ôl bod yn
hendrefu o gwmpas Môr y Canoldir a Gogledd Affrica. Maent yn aml yn
nythu mewn ardaloedd o gynefinoedd cymysg lle mae clogwyni a gylïau
gyda llwyni a choed gwasgaredig, fel arfer ar ryw uchder o 250m i
350m neu’n uwch. Byddant yn chwilota am eu bwyd ar dir pori cwta
lle ceir creaduriaid di-asgwrn-cefn - gwelwyd bod pryfed genwair yn
rhan bwysig o’u hymborth yn ystod y gwanwyn. Yn nes ymlaen yn yr
haf, daw aeron, yn enwedig llus, yn elfen bwysicach. Maent yn dodwy
eu hwyau mewn nyth o laswellt, tebyg iawn i un yr aderyn du, a
phedwar o wyau yw’r nifer mwyaf cyffredin. Byddant yn aml yn magu
dwy nythaid, sydd yn cadw’r adar yn brysur tan yr haf. Maent yn
dechrau hedfan i’r de ym mis Awst a bydd hyn yn parhau tan fis
Hydref, gyda’r rhan fwyaf o’r adar yn cyrraedd eu tiroedd gaeafu o
ddiwedd Hydref ymlaen.
Ymddengys mai’r prif diroedd gaeafu yw bryniau Gogledd Affrica,
yn enwedig bryniau Atlas Moroco, er mai ychydig o adar â chylchoedd
a ddaliwyd. Bydd yr adar yn symud trwy’r Pyreneau, ac yn aml yn
loetran ym mryniau de Sbaen cyn croesi i Ogledd Affrica. Ym
mynyddoedd yr Atlas, ceir yr adar yn ardaloedd helaeth o goed Meryw
sydd rhwng 1400 a 2000m o uchder, a hyn mae’n debyg oherwydd bod
aeron meryw yn rhan bwysig o’u deiet.
Mae dwy hiliogaeth o fwyeilch y mynydd yn magu ar draws Gogledd
Ewrop, ac y mae eu tiroedd gaeafu yn gorgyffwrdd. Mae trydedd
hiliogaeth yn magu ac yn gaeafu yn Asia Leiaf. Mae hiliogaeth yr
enw torquatus wedi dirywio yn sylweddol o ran niferoedd magu a
lleihad yn nifer y mannau lle mae modd ei gweld ar draws y DU, ond
nid yw’n ymddangos, o arsylwi nifer yr adar mudol, bod y boblogaeth
yng ngwledydd Llychlyn a’r Ffindir wedi dirywio, er nad oes llawer
o arolygon magu wedi eu cyhoeddi.
Dirywio fu hanes mwyeilch y mynydd sy’n magu yng Nghymru ers o
leiaf y 1970au. Awgrymodd cofnodion o adroddiadau sirol am adar a
chysylltiadau ag adaryddion boblogaeth o 450 - 500 pâr yng Nghymru
yn y 1980au. Cafwyd arolwg sampl o’r DU ym 1999, lle’r
amcangyfrifwyd bod 293 - 392 pâr yng Nghymru. Gwnaed ail arolwg o
nifer fawr o detradau 1999 yn 2006 a dangosodd hyn ddirywiad o 69%
mewn daliadaeth ers hynny.
Mae nifer o resymau wedi eu cynnig am y dirywiad, yn amrywio o
ddirywiad yn ansawdd y cynefinoedd a’r cyflenwad bwyd yn y tiroedd
magu a’r tiroedd gaeafu, pwysau hela ar yr adar mudo, a newid
hinsawdd. Nid yw’n glir pa un o’r rhesymau posibl hyn sy’n gyfrifol
am y dirywiad, ac mae’n debyg iawn mai cyfuniad ohonynt oll sydd
agosaf at y gwir. Mae arnom angen mwy o astudiaethau ar fwyalchen y
mynydd, yn enwedig yn y cyfnod wedi iddynt fagu plu ac yn y tiroedd
gaeafu, i’n helpu i ddeall yr achosion hyn. Oni fydd modd i ni fynd
i’r afael ag o leiaf rai o’r rhesymau dros y dirywiad, mae dyfodol
mwyalchen y mynydd yng Nghymru yn edrych yn ddu ar hyn o bryd.
Mick Green yw Cyfaryddwyr Ecology Matters.