Natur Cymru
Ceir fersiwn lawn o'r erthygl hon yn y cylchgrawn.
Mae’r wiwer goch yng Nghymru dan fygythiad
gwirioneddol. Dim ond mewn tri lle y mae poblogaethau
sylweddol i’w cael erbyn hyn - Ynys Môn, Coedwig Clocaenog (yn y
gogledd) a chanolbarth Cymru, ac ar waethaf y gwaith sy’n cael ei
wneud yn y tair ardal, nid yw dyfodol y wiwer yn saff o bell
ffordd. Mae colli a darnio’i chynefin mewn planhigfeydd conwydd,
gwaith coedwigaeth dideimlad, a chystadleuaeth farwol o du’r wiwer
lwyd, oll yn golygu fod y cyfnod hwn yn dyngedfennol i’r rhywogaeth
yng Nghymru. Oni wneir rhywbeth pendant, a hynny ar fyrder, efallai
y bydd Cymru yn colli ei holl wiwerod coch.
Prosiect Gwiwerod Coch Canolbarth Cymru
Bum mlynedd yn ôl, sefydlwyd Prosiect Gwiwerod Coch Canolbarth
Cymru (PGCCC) i ymateb i’r her. Mae aelodau’r prosiect yn cynnwys
Cynghorau Sir Caerfyrddin, Powys a Cheredigion, Comisiwn
Coedwigaeth Cymru, Cyngor Cefn Gwlad Cymru, Ymddiriedolaethau Bywyd
Gwyllt a rheolwyr coedwigoedd preifat.
Y dasg gyntaf oedd dangos presenoldeb wiwerod coch yng
nghoedwigoedd y Canolbarth trwy eu dal yn fyw. Ail amcan oedd
rheoli’r wiwer lwyd yn ardaloedd yr astudiaeth er mwyn lleihau’r
gystadleuaeth a gwella’r cyfle o ddal y wiwer goch. Wedyn, byddai
modd dadansoddi firws brech y wiwer ymysg poblogaeth y gwiwerod
llwyd.
Yn ystod dau arolwg, daliwyd 32 gwiwer goch (o dri safle) a 121
gwiwer lwyd (o bob safle). Yr oedd y rhai coch yn rhydd o arwyddion
amlwg unrhyw glefyd, ac yn cynnwys anifeiliaid o bwysau magu, rhai
iau a benyw dorrog, sydd oll yn arwyddion cadarnhaol fod y
boblogaeth bresennol yn magu.
Dangosodd dadansoddiad DNA fod gwiwerod coch yng nghanolbarth
Cymru yn debyg o fod o dras hollol Gymreig a’u bod yn llai o dan
ddylanwad cyflwyno gwiwerod coch Ewropeaidd i’r DU yn y bedwaredd
ganrif ar bymtheg na phoblogaethau eraill Prydain.
Darganfuwyd firws brech y wiwer yn rhwng 50 a 90% o’r gwiwerod
llwyd. Yr hyn a achosodd bryder oedd bod y gwiwerod llwyd yn magu
yn un o safleoedd mwyaf pellennig yr arolwg yng ngogledd coedwig
Tywi, gryn bellter o goetir llydanddail.
A yw hi’n rhy hwyr?
Mae’r sefyllfa yn argyfyngus. Mae partneriaeth y wiwer goch am i
goedwig Tywi gael ei dynodi yn Warchodfa’r Wiwer Goch gyda gwarchod
y wiwer goch yn un o’i phrif amcanion rheoli.
Dylai LlCC, y Comisiwn Coedwigaeth a Chyngor Cefn Gwlad Cymru
fabwysiadu polisi i reoli’r wiwer lwyd a darparu’r adnoddau i
ddileu’r wiwer lwyd o ardaloedd lle mae’r wiwer goch yn bodoli. Mae
polisi wedi ei fabwysiadu yn Lloegr, ond mae’n siom fod Cymru fel
petai yn llusgo’i thraed.
Yn ddiweddar, dadleuwyd mai’r unig ffordd effeithiol o warchod
gwiwerod coch yw ar ynysoedd ac nad yw’n economaidd parhau gydag
ymdrechion cadwraeth mewn mannau eraill. Barn PGCCC yw, o gadw mewn
cof natur ynysig coedwig Tywi, fod modd creu ‘ynys ar y tir’
Bob tro y collir rhywogaeth, mae fel golau yn pylu mewn
ystafell; mae eich llygaid yn ymaddasu iddo, ond mae eich profiad
gymaint â hynny yn llai cyfoethog. Mae’r ateb yno i’r gwiwerod
coch, ond a ydym ni yn ddigon dewr i fynd i’r afael ag ef?
Isabel Macho yw Swyddog Bioamrywiaeth Sir
Gaerfyrddin ac mae’n aelod o Brosiect Gwiwerod Coch Canolbarth
Cymru