Natur Cymru

Ceir fersiwn lawn o'r erthygl hon yn y cylchgrawn.
Mewn byd sy’n gwybod beth yw pris popeth a
gwerth dim byd, does ryfedd fod nifer o naturiaethwyr ac ecolegwyr
yn amheus iawn o economeg. Ond er ein bod wedi gwrthsefyll y syniad
o roi gwerth ariannol ar rywogaethau neu gynefinoedd (gan eu gwneud
yn haws eu prynu a’u gwerthu), efallai mai’r maes newydd sy’n ymhél
â phennu gwerth gwasanaethau ecosystem yw ein hymateb gorau i’r
model economaidd presennol lle na roddir gwerth ar natur.
Daeth swyddogaethau ecosystem i’r amlwg fel
gwyddor yn y 1960au, ac erbyn y 1990au roedd y syniad o roi gwerth
economaidd ar y gwasanaethau y mae ecosystemau’n eu cynnig yn
dechrau cael sylw mewn gwaith ymchwil academaidd. Mae cylchdroi
maetholion, rheoli’r hinsawdd, rheoli pla a chlefydau, peillio,
amrywiaeth biolegol a genetig, a phuro dŵr, i gyd yn wasanaethau
ecosystem, yn ogystal ag adnoddau esthetig ac ysbrydol ac adnoddau
hamdden. Dydy marchnadoedd masnachol ddim yn cydnabod gwerth y
gwasanaethau yma a dydyn nhw ddim yn cael eu mesur fel cynnyrch
diwydiannol. O’r herwydd, dydyn nhw ddim yn cyfrannu at ddulliau
swyddogol o fesur cynnydd economaidd. Ond gan fod economi’r byd yn
gwbl ddibynnol ar y systemau cynnal bywyd yma, mewn un ystyr mae eu
gwerth i’r economi’n ddiderfyn. Yn y pen draw, fe allai anwybyddu’r
wybodaeth yma gael effaith negyddol ar gynaliadwyedd pobl ar y
blaned.
Mae adroddiad newydd o’r enw Economics of
Ecosystems and Biodiversity yn cydnabod gwerth economaidd
bioamrywiaeth i filiynau o bobl sy’n uniongyrchol ddibynnol ar
adnoddau naturiol ar gyfer eu bywoliaeth. Hefyd, mae’n dangos sut y
mae colli bioamrywiaeth yn effeithio’n awr ar economïau rhanbarthol
mewn nifer o ffyrdd, gan gynnwys llygredd amaethyddol mewn basnau
afonydd a llai o bysgod. Yn ôl yr awdur, Mr Pavan Sukhdev, sef gŵr
amlwg ym Manc Yr Almaen, “rydym yn ceisio hwylio trwy ddyfroedd
anhysbys a thrwblus efo hen gwmpawd diffygiol, ac mae hyn yn
effeithio ar ein gallu i ffurfio economi gynaliadwy sy’n gydnaws â
natur.” Bydd cam nesaf y gwaith yn archwilio sut y gellir gwella
ein polisïau a’n modelau economaidd er mwyn sicrhau y bydd
gwasanaethau ecosystem yn dal i lifo, er mwyn gwarchod
bioamrywiaeth ac er mwyn gwella lles cenedlaethau’r presennol a’r
dyfodol.
Felly, beth yw’r wers ar gyfer Cymru? Mae’r
ymchwil yn awgrymu bod pob hectar o’n coetiroedd yn werth cannoedd
o bunnoedd bob blwyddyn gan eu bod yn gronfeydd carbon, a bod ein
gwlyptiroedd yn werth swm tebyg gan eu bod yn draenio dŵr. Mae
gwaith ymchwil arall yn awgrymu bod pob punt a gaiff ei buddsoddi
mewn gwella a gwarchod y gwasanaethau ecosystem yma’n esgor ar £100
o fuddion economaidd. O ystyried gwerth ecosystemau, mae dyfodol
amaethyddiaeth yn ymddangos yn bur wahanol, fel y daeth Adroddiad
2020 Llywodraeth y Cynulliad i’r casgliad. Yn sicr, rhaid i ni
ddatblygu dull priodol o bennu gwerth nwyddau a gwasanaethau
amgylcheddol.
Yma yng Nghymru, mae nifer o brosiectau mawr
yn ymwneud ag isadeiledd ar y gweill – rhai y mae’r dulliau
presennol o bennu gwerth wedi casglu sydd o ‘fudd gor-redol i’r
cyhoedd’. Ystyriwch forglawdd Afon Hafren. Mae nifer o wleidyddion
a phobl fusnes eisiau i’r morglawdd yma gael ei adeiladu er mwyn
sbarduno datblygiadau economaidd a chyfrannu at dargedau ynni
adnewyddadwy. Mae’r Llywodraeth wedi rhoi Astudiaeth Dichonolrwydd
ar y gweill er mwyn ymchwilio i’r dewisiadau o safbwynt pŵer y
llanw, gan gynnwys Asesiad Amgylcheddol Strategol, ac fe fyddan
nhw’n ystyried yr economeg sydd ynghlwm wrth leihau carbon, y
buddion a’r costau sy’n berthnasol i dechnolegau amgen, a’r gost o
ddarparu cynefinoedd eraill yn lle’r rhai a gaiff eu colli. Ond ar
hyn o bryd, dydy’r asesiadau yma ddim yn ystyried gwerth economaidd
yr adnodd amgylcheddol a gollir. Bydd yn ystyried yn fanwl beth
fydd effaith datblygiadau ar yr amgylchedd; ond ni waeth
pa mor fawr fydd yr effaith, fe fydd yn cael ei gyfnewid am yr hyn
a gaiff ei ystyried fel rhywbeth sydd o werth economaidd uwch, oni
allwn ddangos colled economaidd fwy.
Mae aber Afon Hafren, ynghyd â’r isafonydd, yn
safle silio i lysywod a physgod eogaidd sy’n rhannau hollbwysig o
ecosystemau a geir filoedd ar filoedd o filltiroedd yn yr Iwerydd.
Y consensws ymhlith biolegwyr pysgodfeydd yw y bydd y poblogaethau
yma’n diflannu yn yr ardal yn sgîl y morglawdd. Fe fyddai colli’r
rhywogaethau hollbwysig yma’n ddifrifol iawn; ond trwy greu cynefin
gwael a gwahanol iawn, fe fyddai’r morglawdd hefyd yn atal
rhywogaethau eraill rhag cymryd eu lle fel rhywogaethau allweddol o
fewn y system. Mae sicrhau gwytnwch ecosystemau (yn enwedig yr
ecosystemau hynny sy’n cronni carbon) cyn bwysiced bob dydd â
lleihau gollyngiadau carbon. Onid yw hi’n eironig ein bod, wrth
drin a thrafod newid yn yr hinsawdd, yn rhoi gwerth ar garbon – sef
rhywbeth difywyd – ond nad ydym yn rhoi gwerth o’r fath ar unrhyw
beth byw.
Wrth i fyd natur wynebu mwy a mwy o
fygythiadau, rhaid i gadwraethwyr chwilio am ddulliau mwy arloesol
a phellgyrhaeddol. Gall ymdrin â’r hyn sy’n arwain at golli
bioamrywiaeth – yn hytrach nag ymdrin â’r symptomau – esgor ar
atebion i broblemau sy’n ymddangos fel rhai anodd dros ben. Rydym
yn dechrau dysgu edrych y tu hwnt i ardaloedd dan warchodaeth, gan
gynllunio ar raddfa fwy, a hynny ar draws tirweddau ac
eco-ranbarthau cyfain. Yn yr un modd, fe fydd ymdrin â’r hyn sy’n
achosi newid hinsawdd, trwy ddeall ein perthynas ag ecosystemau, yn
ffordd fwy effeithiol na cheisio datrys y symptomau yn unig. Ar
gyfer y ddau beth yma, mae pennu gwerth economaidd yn gam newydd a
phwysig yn y frwydr i warchod byd natur a’n dyfodol ni ar y
blaned.
Morgan Parry yw
Cyfarwyddwr WWF Cymru.