Natur Cymru
Ceir fersiwn lawn o'r erthygl hon yn y cylchgrawn.
Pan ddywedodd dyn y comisiwn coedwigaeth ei fod yn meddwl difa'r
geifr tynhaodd fy nghorff a gwthiwyd rhesymeg i'r neilltu gan
emosiwn. Rwy'n hoffi'r hyn mae'n ei wneud i'r goedwig y tu ôl
i mi, yn plannu cymysgedd gyfoethog o lydanddail yn lle rhesi o
gonwydd unffurf, ond yn anffodus, mae'r geifr yn hoffi hynny hefyd.
Maent wrth eu bodd yn bwyta'r egin tyner a rhisgl y glasbren ifanc
ac nid yw'n anodd iddynt dorri drwy'r pibellau amddifynnol,
brau.
Criw bach sy'n byw'n agos i'n tŷ wrth odre
Moelwyn Bach sy'n edrych allan dros Fro Ffestiniog yw 'fy ngeifr'.
Roedd chwech ohonynt pan gwrddais â hwy gyntaf, yn cael eu harwain
gan fwch gafr trawiadol â choron o gyrn afrosgo, siap telyn fach.
Ar ddiwedd cyfnod rhidio'r hydref hwnnw cafodd ei ddisodli gan
labwst ag un corn siâp cleddyf cam - ac os byddai'n ymostwng i
edrych arnoch byddai ei wyneb yn cael ei ddirdroi gan yr ochr
drom.
Ers dros ddwy ganrif mae geifr wedi pori ar y
mynyddoedd hyn heb unrhyw rwystr, wedi dianc o stoc ffermio
hynafol, ar ôl cael eu rhoi i'r naill ochr yn sgîl cynhyrchu
niferoedd mawr o ddefaid. Hwy oedd yr anifeiliaid amlbwrpas
perffaith yn darparu cig a chroen, llaeth, gwêr ar gyfer canhwyllau
a gwallt ar gyfer wigiau barnwyr. Ystyriwyd bod praidd cymysg yn
gyfuniad da gan fod geifr ystwyth yn cael gwared ar demtasiwn
planhigion iraidd ar siliau a oedd yn rhy beryglus i ddefaid
afrosgo.
Achub gafr
Cefais alwad ffôn gan fy nghymydog y ffermwr -
roedd gafr wedi mynd yn sownd ar wal gerrig, a allwn ei helpu i'w
chael i lawr? Roedd coes ôl yr afr wedi'i dal mewn llinynnau o
weiren oedd ar ben y wal. Roedd ei phen ar y ddaear, yn edrych
arnom gyda'r llygad a oedd yn y golwg heb iddo gau am eiliad, yn
wan oherwydd y profiad annifyr a chyda metel rhydlyd yn torri'n
ddwfn i'w charn. Aethom ati i godi'r afr, torri'r weiren a'i chario
i lawr y bryn - mae'n rhaid ei bod wedi bod yno ers rhai diwrnodau
gan ei bod yn methu defnyddio ei dwy goes ôl. Cafodd feddyginiaeth
a rhoddodd y ffermwr gartref a bwyd iddi mewn corlan a phob min nos
am sawl wythnos cerddai'r teulu o eifr heibio gan alw allan amdani.
Yn y pen draw fe wellodd, efallai nad oedd mor sionc ag y bu ac
roedd yn gwisgo tag coch ar bob clust - mae ffermwyr yn dueddol o
wneud y pethau hyn.
Gall wythnosau fynd heibio heb weld fy ngeifr
yna un diwrnod byddant yn crwydro heibio. Weithiau rwy'n eu clywed
yn dod, wrth i'r afr sy'n ceisio dal i fyny weryru'n olefus, neu
gallaf eu harogli pan fyddant rhyngof a'r gwynt. Nid ydynt yn poeni
fy mod yno ond os af yn rhy agos atynt bydd y bwch yn eu harwain
ymaith.
Ymosodiad ar yr ardd
Roedd yn ymddangos eu bod yn edmygu ein
hymdrechion i amaethu'r ardd gaerog ac roeddwn yn naïf i feddwl y
byddent yn parchu ein darn o dir. Er mawr siom dychwelais un noson
i'w gweld yn bwyta'r ffa dringo, yn dadwreiddio planhigion mefus ac
yn torri coed ffrwythau newydd eu plannu. Fy ymateb greddfol oedd
ysgwyd ffon a melltithio wrth i'r oedolion neidio allan a myn gafr
ddianc drwy fwlch yn fy amddiffynfa fregus. Ond nid wyf yn
codi cymaint o ofn â hynny ac roeddent yn ôl eto drannoeth felly es
ati i godi ffens ar dop y waliau. Ers hynny maent wedi gadael fy
nghnydau i fod.
Bob mis Rhagfyr rwy'n cymryd rhan yng
nghyfrifiad geifr Eryri. Rydym yn chwilio am 'hanner geifr': o
bellter mae rhannau duon eu cotiau'n gwneud iddynt edrych fel
defaid cwta. Os awn ni'n ddigon agos atynt rydym yn astudio eu cyrn
er mwyn pennu eu rhyw a'u hoedran. Maent yn lluosi'n gyflym diolch
i aeafau mwyn ac yn cael mwy o effaith byth ar yr ymdrechion gorau
i adfywio coetiroedd hynafol.
Y llynedd cefais fy rhoi mewn grŵp dan
arweiniad Hywel Roberts, uwch warden ac arbenigwr mewn planhigion
ucheldir. Aethom i fyny crib gul i gopa'r Glyder Fawr lle buom yn
llochesu y tu ôl i golofnau o greigiau wrth i'r eira hedfan heibio
a ninnau'n cnoi brechdanau. Erbyn diwedd y dydd roeddem wedi cyfrif
27 o eifr yn ardal Cwm Idwal, yn edrych mor oer a gwlyb ag y
teimlwn i, gan gyfrannu at gyfanswm o 117 ar gyfer y Glyderau, sef
cynnydd bach o 12 o gymharu â'r flwyddyn flaenorol.
Mae fy ngardd yn ddigon bach i'w hamddiffyn
ond ar raddfa tirwedd nid yw'n ymarferol gosod ffensys. Mae eu
cludo dulliau atal cenhedlu yn anymarferol ac yn anffodus eu difa
drwy gyflogi saethwr yw'r unig ddewis ymarferol. Ond nid fy ngeifr
i does bosib?
Er gwaethaf y gaeafau mwyn mae fy nghriw wedi
cael tipyn o anlwc a bellach dim ond pedwar oedolyn sydd ar ôl.
Daethpwyd o hyd i'r un â thagiau coch yn ei chlustiau ar waelod
clogwyn, efallai na chafodd ei hystwythder yn ôl yn llawn, a bu
farw'r afr hynaf wrth roi genedigaeth gyda'r cyntaf o'r myn
efeilliaid wrth ei hymyl. Rwy'n credu bod dyn y comisiwn
coedwigaeth wedi anghofio amdanom am y tro, sy'n newyddion da, ac
mae myn gafr eleni'n edrych yn heini ac yn iach ac yn llawn
direidi. Am y tro mae cydbwysedd natur derbyniol yn y rhan hon o
Eryri - diolch yn rhannol i ffens fy ngardd.
Mae Huw Jenkins yn awdur
llawrydd ac mae'n recordio eitemau ar gyfer Country Focus Radio
Wales. Ef yw awdur Not Just a Pretty Place – Survival in
Snowdonia