Natur Cymru
Ceir fersiwn lawn o'r erthygl hon yn y cylchgrawn.
Roedd criw o famau, tadau a phlant bach o Gymru yn
cydgerdded drwy goridorau pŵer ym Mrwsel. Mae Senedd Ewrop yn
adeilad enfawr o wydr a chryn gynnwrf. Mae pobl ddeallus a threndi
yn chwyrlïo i mewn ac allan o gyfarfodydd gyda golwg ddwys ond
disglair arnynt.
Roeddem wedi bod yn paratoi ers wythnosau lawer. Roedd arnom
eisiau stopio newid yn yr hinsawdd ac roedd hyn yn edrych fel ein
cyfle gorau i ddylanwadu ar ddigwyddiadau cyn iddi fod yn rhy hwyr,
cyn uwchgynhadledd y byd yn Copenhagen ym mis Rhagfyr.
Symlrwydd a synnwyr cyffredin oeddem yn ei gynnig: os na fyddwn
ni’n stopio newid yn yr hinsawdd, gyda’r tebygolrwydd na fydd modd
ei stopio ar ôl pedair gradd o gynhesu, gallwn ddisgwyl byd na fydd
modd byw arno bron. Rhaid i hyn felly fod yn brif flaenoriaeth i’n
holl ymdrechion ar hyn o bryd. Mae’n flaenoriaeth i ni: buom yn
holi’r bobl y cyfarfuom â nhw faint o flaenoriaeth roedden nhw’n ei
roi i’r mater.
Wrth gwrs, nid oedd hyn yn ddigon; roeddem wedi treulio’r cyfnod
cyn ein hymweliad yn ymchwilio i’r hyn a oedd yn cael ei wneud, yr
hyn a oedd yn cael ei gynnig, pa rwystrau oedd yn bodoli a beth
oedd y dewisiadau sydd ar gael. Ar gyfer ein grŵp ni roedd hyn yn
golygu achub ar y cyfle pan roedd y plant yn cysgu neu pan roedd y
traethawd wedi cael ei bostio, neu rhwng trefnu cyfarfodydd gyda
grwpiau cymunedol. Mae paratoi i fynd i siarad â llywodraeth Ewrop
yn dipyn o her. Roedden ni’n poeni.
Amserlen lawn
Roedd Jill Evans, ASE Plaid, wedi trefnu’r cyfarfodydd ym Mrwsel
er mwyn cael trefn ar yr holl wrthdaro ac roedd hi’n ein noddi.
Dros y tridiau cawsom gyfle i gwrdd â hi, tri ASE arall Cymru, ASE
Gwyrdd y DU, Caroline Lucas ac ASEau cenedlaetholgar yr Alban – gan
eu bod nhw a Plaid yn rhan o gynghrair werdd Ewrop – ac Asiantaeth
yr Amgylchedd Ewrop. Daeth ein hymweliad i ben â dau gyfarfod â
chomisiynwyr pwerus yr UE. Cynhaliwyd un cyfarfod gydag aelodau
strategaeth hinsawdd Ewrop a thîm negodi ar gyfer cytundeb byd eang
– hwn oedd y cyfarfod lefel uchaf a gawsom.
Roeddem hefyd wedi cymryd rhan mewn fideo-gynhadledd ag Yvo de
Boer, ysgrifennydd UNFCCC (Fframwaith Confensiwn y Cenhedloedd
Unedig ar Newid yn yr Hinsawdd). Nid oeddem wedi siarad ag ef ond
roeddem yn eistedd gyda’r bobl a oedd yn ei holi. Cymerais ran yn
nhrafodaeth yr European Greens ac roeddem yn westeion mewn
cynhadledd o’r rhanbarthau dan gadeiryddiaeth Gweinidog Cymru, Jane
Davidson. Roedd popeth y buom ynddo’n rhoi sylw i’r un pwnc sy’n
wynebu’r byd – stopio newid yn yr hinsawdd rhag dinistrio ein
planed.
Roedd y rheini a ddaeth i sgwrsio â ni ar ein stondin yn ein
hannog ac yn ein gwerthfawrogi’n fawr. Pwysleisiais yr angen i
roi’r gorau i echdynnu tanwydd ffosil i’w losgi. Os na wnawn ni
hynny byddwn yn methu, ni waeth beth arall a wnawn. Petaem yn
gwneud hyn, byddem 60% o’r ffordd at gyrraedd y nod. Mae hwn yn
gynnig bras ond syml. Roedd gennym draethawd manwl gyda ni ynghylch
sut gellir cyflawni hyn, Kyoto 2 gan Oliver Tickell. Roeddem wedi
egluro nad oeddem yno i hyrwyddo’r dull hwn, ond ei gyflwyno fel
enghraifft o gynnig a oedd wedi’i baratoi’n drwyadl i’n tynnu ni
oddi ar danwydd ffosil cyn pen y cyfnod y mae angen gwneud hynny er
mwyn achub y blaned. Cymerodd pobl ei lyfr.
Gwelsom ddylanwad lobïwyr masnachol ar y rheini y cyfarfuom â
nhw. Un camsyniad amlwg a welsom oedd y dybiaeth bod arnom angen
byw yn yr un ffordd ag rydym yn byw nawr mwy neu lai, dim ond
ychydig yn fwy effeithlon, a bod yn rhaid i ni ddod o hyd i’r
dechnoleg a fyddai’n caniatáu i hyn ddigwydd cyn defnyddio llai o
danwydd ffosil. Gwnaethom ein gorau glas i egluro manteision a
phoblogrwydd defnyddio llai o bŵer a byw ar lai o stwff. Manteision
megis dibynnu ar eich cymuned yn hytrach na’r economi fyd-eang i
ddiwallu’r anghenion sylfaenol ar gyfer bwyd, masnach, adloniant,
lles ac ynni. Efallai mai dim ond petai pobl yn gweld hyn y byddent
yn ei gredu, neu petaent yn gweld cyflwyniad PowerPoint
corfforaethol ynghylch y peth.
Y sêr a’r sâl
Cynhaliwyd y cyfarfodydd mwyaf calonogol a dyrys gyda’r
comisiynwyr. Roedd yn anhygoel dod o hyd i bobl mor ddeallus a
chanddynt gymaint o gymhelliant, rhieni plant ifanc eu hunain, a
oedd wedi ymrwymo’n llwyr i stopio newid yn yr hinsawdd drwy’r
dulliau a oedd ar gael iddynt. Efallai nad ydym yn cytuno mai
dyma’r dulliau gorau, ond roeddem yn gwbl siŵr o lefel ymrwymiad a
gallu’r bobl hyn. Roedd yr wybodaeth ddiweddaraf yn sicr ar flaenau
bysedd y ddau a oedd yn negodi ac roeddent yn benderfynol dros ben.
Roeddent yn dangos eu bod yn edmygu’r ffordd roeddem yn byw bywyd
carbon isel gartref gan eu bod yn teimlo mai ar y lefel leol y
byddai pethau’n dechrau newid.
Roedd y cyfarfod ag ASEau Cymru o’r Blaid Lafur, y Blaid
Geidwadol ac UKIP yn dra gwahanol. Nid oeddem o’r farn bod eu
pwyntiau’n berthnasol i’r pwnc, neu roeddent yn ymylol iawn, ac
roedd hynny’n wrthgyferbyniad llwyr â’r comisiynwyr gwybodus ac
roedd gennym gywilydd o gynrychiolwyr ein gwlad.
‘Ras i’r gwaelod’
Daeth themâu i’r fei drwy gydol ein cyfarfodydd. Seicoleg sydd
wrth wraidd yr hyn sy’n rhwystro’r cytundeb byd eang: gwledydd na
allant ddelio â rhywun yn dweud wrthynt beth i’w wneud, neu Eich
bai chi ydy hyn, deliwch chi â phethau yn hytrach na Rydyn ni i gyd
yn rhannu’r cyfrifoldeb. Mae hon yn feddylfryd Wnawn ni ddim oni
wnewch chi a ddisgrifiwyd gan Yvo de Boer ac eraill fel “ras i’r
gwaelod”. Daeth y goleuni a’r gobaith fwyaf amlwg o’r rhanbarthau
a’r gwledydd unigol a oedd yn gweithredu’n annibynnol, ac yn llunio
eu hunain yn gynghreiriau ac yn rhwydweithiau heb faich yr holl
rwystrau. Roedd hyn yn plethu’n dda â’n breuddwyd o weld Cymru’n
cymryd yr awenau. Roedd Jane Davidson (Y Gweinidog dros yr
Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai yng Nghymru) wedi rhoi areithiau
cryf yng nghynhadledd y rhanbarthau gan arddel y math hwn o ddull
gweithredu.
Cawsom ein canmol a’n crybwyll a’n ffilmio ar gyfer ITV Wales a
BBC Cymru. Roedd hyn a’r ffaith i ni gael mynd i’r holl gyfarfodydd
roeddem wedi gofyn amdanynt, a mwy, wedi gwneud i ni deimlo bod yr
hyn roeddem wedi’i wneud yn beth prin a phwysig. Roedd cael rhai
o’n plant yno wedi gwneud i ni aros yn y cof.
Ydyn ni’n llai tebygol o gwbl o osgoi
trychineb?
Roedd ein safbwyntiau’n gymysg ond at ei gilydd roeddem yn fwy
cadarnhaol nag oeddem pam ddechreuom ar ein taith. Dywedodd Yvo de
Boer: “China yw’r llygrwr mwyaf a China sy’n gwneud yr ymdrechion
mwyaf i liniaru. Rwy’n teimlo y dônt ymlaen gyda’r ffigurau a’r
ymrwymiadau y mae eu hangen arnom. Rwyf yn meddwl y cawn ein synnu
ganddynt.” Roedd yn teimlo’n gryf y dylid gweld bod cyfarfod
Copenhagen yn llwyddo er mwyn annog y camau nesaf. “Fel arall ni
fydd gennym ddim.” Ond “Dylai trafodaethau ar gyfer rhagor o
doriadau ddechrau’r diwrnod canlynol bron ... Mae arnom angen
pensaernïaeth wahanol ar gyfer llywodraeth byd,” dywedodd yn
ystyrlon.
Mae Vicky Moller, cyfrannwr rheolaidd yn y
gorffennol, wedi magu pump o blant ar dyddyn ac mae’n weithgar iawn
mewn gwleidyddiaeth ‘werdd’ yn Sir Benfro.