Eira cyntaf ac olaf Eryri 1941-2010
Nod Project Llên Natur Cymdeithas Edward Llwyd yw casglu a
rhannu gwybodaeth am y berthynas rhwng pobl a’r amgylchedd naturiol
o’u cwmpas. Ar wefan Llên Natur (www.llennatur.com) cewch
lawrlwytho o, neu ychwanegu at, 35,000 o gofnodion allan o
ddyddiaduron, yn ymestyn dros y ddwy ganrif a hanner a mwy
ddiwethaf. Maent yn ymwneud yn bennaf â’r tywydd, amaethyddiaeth
a’r amgylchedd. Ymysg y cofnodion hyn mae cyfraniadau gan bobl fu’n
cadw cofnodion preifat ac sydd yn fodlon rhannu eu data â’r
Prosiect. LES LARSEN, un o’r cofnodwyr dyfal hyn,
a DUNCAN BROWN, cydlynydd Prosiect Llên Natur,
sy’n sôn am gofnodion eira dros y 70 mlynedd diwethaf.
Yn ôl i'r
brig