Natur Cymru Natur Cymru

Eich amgylchedd chi ydyw: mae'n cynnwys yr awyr yr ydych chi'n ei anadlu, y bwyd yr ydych chi'n ei fwyta a'r dŵr yr ydych chi'n ei yfed. Eich cylchgrawn chi ydyw. Ffynhonnell pleser, rhyfeddod a gwybodaeth. Dewch i fwynhau natur trwy gyfrwng tudalennau'r cylchgrawn.

Mae yna lond lle o resymau da dros danysgrifio – dyma rai rhesymau gwael dros beidio â thanysgrifio, ynghyd â’n hymatebion. Ydyn nhw’n canu cloch?

1. "Rydw i eisoes yn tanysgrifio i gylchgronau eraill."

Natur Cymru yw'r unig gylchgrawn sy'n:

• canolbwyntio'n arbennig ar Gymru

• ymdrin â'r holl agweddau ar yr amgylchedd

Mae'n dod yn lle'r cylchgrawn poblogaidd Natur yng Nghymru a ddechreuodd yn 1955 ac a ymddangosodd yn rheolaidd am dros 30 o flynyddoedd. Mae'n ymfalchïo yn y ffaith ei fod yn ei gwneud hi'n bosib i bobl broffesiynol ac amaturiaid fel ei gilydd gael gafael ar straeon ynghylch bywyd gwyllt gan gadwraethwyr blaenllaw.

2. "Does gen i ddim amser."

Yn wir, mae bywyd yn ymddangos fel pe bai'n mynd yn fwy a mwy prysur, ac mae llawer ohonom ni'n byw ein bywyd ar garlam. Ond onid yw hyn yn rheswm da dros eistedd yn ôl a cheisio meddwl pam rydym ni i gyd yn rhuthro'n ôl a blaen? Mae Natur Cymru yn gofyn cwestiynau pryfoclyd am y rhan y mae'r amgylchedd yn ei chwarae yn ein bywydau, a'r rhan yr ydym ni'n credu y mae'n ei chwarae.

3. "Rydw i'n bwriadu tanysgrifio - ond heb wneud dim yn ei gylch eto."

Does dim angen i chi oedi mwy - cliciwch yma.

4. "Fe alla' i ei ddarllen yn y llyfrgell."

Hwrê! Dyna ddiben llyfrgelloedd. Os nad oes gan eich llyfrgell leol gopi, wnewch chi ofyn iddyn nhw, swnian arnyn nhw, a chrefu arnyn nhw i danysgrifio.

Ond mae llwyddiant Natur Cymru yn y dyfodol yn dibynnu ar gefnogaeth ariannol. Dydi'r cylchgrawn ddim yn poeni am wneud elw, ond wrth gwrs mae'n rhaid i ni dalu'r costau. Os byddwch chi'n tanysgrifio, fe fyddwch chi'n helpu i sicrhau y bydd y cylchgrawn yn parhau, yn ogystal â chael cylchgrawn i'w gadw a'i ddarllen pryd bynnag y dymunwch wneud hynny.

5. "Dydi o ddim yn apelio ata' i."

Mae'n rhaid fod gennych chi rywfaint o ddiddordeb yn yr amgylchedd, neu fyddech chi ddim yn darllen y dudalen yma! Onid yw hi'n well gwneud penderfyniadau ar ôl cael gwybodaeth ddigonol? Efallai y byddwch chi'n cerdded ar hyd y bryniau, ac yn dychryn o weld bod coed yn cael eu torri. Ond, petai chi'n gwybod bod yr arfer o dorri coed yn rhan o gynllun rheoli'r cynefin er mwyn annog mwy o rugieir du i fridio, yna fe fyddech chi'n gweld y cyfan trwy sbectol wahanol.

6. "Alla' i ddim fforddio tanysgrifio."

Fe fydd tanysgrifiad safonol (£14.00) yn costio llai na 4c y dydd i chi. Allwch chi fforddio PEIDIO â thanysgrifio?