Natur Cymru
Dyma ganllaw byr i awduron erthyglau a nodiadau/adroddiadau byr.
Cofiwch fod y darllenwyr yn amrywio, ac mae’n bosib nad ydynt yn
gyfarwydd â’r iaith yr ydym ni’n gyfarwydd â hi yn ein meysydd
gwaith ni. Osgowch jargon!
Y ffordd orau i ddod i adnabod arddull cylchgrawn yw drwy edrych
ar hen rifynnau. Mae gan Natur Cymru ei lais arbennig ei hun. Ei
bwrpas yw nid yn unig darparu gwybodaeth awdurdodol, ddiweddar am
rywogaethau a chynefinoedd a’u rheolaeth, adrodd ar waith arloesol
a’r darganfyddiadau diweddaraf; mae hefyd yn gwneud y cysylltiadau
rhwng y straeon amgylcheddol hyn a’r agenda cymdeithasol ac
amgylcheddol ehangach, a’u cyflwyno mewn ffordd ddiddorol a
darllenadwy.
1. Manylion personol
Byddwch cystal â’r rhoi’ch enw, eich teitl, a sut hoffech gael
eich disgrifio. Dylai awduron prif erthyglau gyfyngu hyn i bymtheg
gair ee teitl swydd a bywgraffiad byr neu ddiddordebau. Ar gyfer
erthyglau/adroddiadau byrion, bydd teitl eich swydd yn ddigon.
Cofiwch gynnwys eich rhif ffôn neu gyfeiriad e-bost fel y gallwn
gysylltu â chi ar frys os oes angen.
2. Teitlau a phenawdau
Ceisiwch gael teitlau sy’n ennyn diddordeb, yn hytrach na
cheisio crynhoi erthygl gyfan yn y teitl: deg gair ar y mwyaf. Os
ydych angen mwy o le, gallwch roi is-deitl. Yr un mor werthfawr yw
paragraff eglurhaol byr yn gosod y cyd-destun, gallwch italeiddio
hwn fel cyflwyniad i’ch erthygl.
Byddai o ddefnydd pe baech yn ystyried torri’r testun drwy
ddefnyddio is-benawdau bob hyn a hyn, darparu dyfyniadau y gellir
eu defnyddio yn yr ymylon, defnyddio pwyntiau bwled neu dablau o
wybodaeth. Nid yw hyn yn hanfodol, ond byddwch yn barod i weld
is-benawdau yn eich testun!
3. Prif lythrennau, acronymau ac atalnodi
Fel arfer dylai llythyren gyntaf enwau cyffredin planhigion ac
anifeiliaid fod mewn llythrennau is (ee ystlum trwyn pedol, ond
ystlum Daubenton). Dim ond lle mae eu hangen y dylid defnyddio
priflythrennau. Os ydynt yn ffurfio acronym rydych yn cyfeirio ato
wedyn, rhowch yr acronym mewn cromfachau ar ôl y geiriau llawn. Os
oes gormod o acronymau, efallai y byddaf yn cyflwyno cwota, neu’n
eu difa’n llwyr!
Mae croeso i bob ffurf ar atalnodi, yn enwedig atalnod llawn. Os
oes gennych frawddeg sy’n hirach na 30 gair, meddyliwch o ddifri am
ei haneru.
4. Y defnydd o enwau gwyddonol
Mae yna sawl dewis yma. Fel arfer mae’r enw gwyddonol mewn
italig (heb gromfachau) yn dilyn y defnydd cyntaf o’r enw
cyffredin, ond nid oes angen ei ailadrodd. Os nad oes amheuaeth
ynghylch y rhywogaeth y mae’r enw cyffredin yn cyfeirio ato (ee
llwynog), gallwch hepgor yr enw gwyddonol. Cewch chi ddewis. Os nad
oes enw cyffredin, bydd yr enw gwyddonol yn sefyll ar ei ben ei
hun.
5. Fformatio
PEIDIWCH â defnyddio unrhyw fformatio
arbenigol, fel troednodiadau, a all achosi cur pen i ni. Mae’r
cylchgrawn yn cael ei lunio gyda meddalwedd arbenigol a bydd unrhyw
fformatio a rowch chi mewn dogfen Word yn gorfod cael ei ddadwneud
gennym ni. Yr eithriad yw defnyddio italig i enwau Lladin. Os ydych
angen defnyddio troednodiadau, gwnewch hynny drwy roi’r rhif mewn
cromfachau yn y testun, ee (1).
6. Hyd a lluniau
Mae’r prif erthyglau tua 1500 o eiriau: “erthyglau rheolaidd” un
dudalen yn 6-700 gair, ac adolygiadau llyfrau 3-500 gair. Os oes
gennych bwnc da ac angen mwy o le, mae croeso i chi gymryd mwy, hyd
at tua 2,500 gair. Mae hyd yn llawer llai pwysig na safon - bydd
erthygl wirioneddol dda yn dal sylw’r darllenwyr p’un ai ei bod yn
hir neu’n fyr.
Ystyriwch luniau a darperwch awgrymiadau, neu’n well fyth,
anfonwch luniau gyda’ch erthygl. Gall y rhain fod yn ddelweddau
digidol, sleidiau neu brintiau i’w sganio yma. Mae croeso i dablau,
graffiau, mapiau a logos, lle’n briodol. Gwnewch yn siŵr bod
gennych ganiatâd hawlfraint llawn i atgynhyrchu unrhyw luniau.
Rhaid i bob llun digidol gael ei anfon fel ffeil ar wahân
(jpegs, tifs ayb). NI ALLWN DDEFNYDDIO DELWEDDAU SYDD WEDI
EU MEWNOSOD MEWN DOGFEN WORD. Gallwn ddefnyddio tablau
syml iawn yn Word, ond dylai unrhyw beth mwy cymhleth gael ei anfon
ar wahân. Mae’n rhaid i’r lluniau fod ag eglurder cyn uched ag y bo
modd.
7. Anfon eich erthygl
Gellir anfon erthyglau ar ddisg neu drwy e-bost. Rydym yn
defnyddio MS Word for Windows, ond mae’r rhan fwyaf o raglenni yn
gydnaws, a gallwch anfon mewn fformat text-only. Gall ein system
e-bost ymdopi â delweddau hyd at 10Mb, a gallwn dderbyn ffeiliau
WINZIP. Gallwch anfon testun drwy’r post hefyd, yn y ffurf sydd
fwyaf cyfleus i chi, ac mae erthyglau mewn llawysgrifen gain bob
amser yn bleser i’w derbyn!
GWAITH CELF
Rydym bob amser yn chwilio am waith celf cyfoes i’w gynnwys ar
ein cloriau, neu ddarluniau o’r radd flaenaf neu gartwnau i’w
cynnwys y tu mewn i’r cylchgronau. Rhaid i’r cloriau fod yn lliwgar
a thrawiadol - pam nad edrychwch chi ar rai o rifynnau’r gorffennol.
Yn ol i'r
brig